Agenda and minutes

Venue: Hawarden Village Primary School

Contact: Jan Kelly / 01352 702301  Email: janet.kelly@flintshire.gov.uk

Items
No. Item

1.

Datgan Cysylltiad: Cod Ymddygiad Llywodraeth Leol

Members are reminded that they must declare the existence and nature of their declared personal interests.  

Minutes:

DMc    Caiff Aelodau eu hatgoffa fod rhaid iddynt ddatgan bodolaeth a natur y cysylltiad personol y maent yn ei ddatgan.

 

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf (21 Chwefror 2018) pdf icon PDF 90 KB

To approve and sign as a correct record the minutes of the previous meeting

Minutes:

JA       Ymddiheurodd gan nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf gan ei fod yn cyd-daro â phenodiad i’r pwyllgor.

 

PL       Eitem Agenda 3, Penderfyniad (a) – Cysylltwyd ag Estyn o ran y sylw am Ysbrydol, Moesol, Cymdeithasol a Diwylliannol ar gyfer Ysgol Pen Coch ond nid oedd unrhyw ymateb uniongyrchol wedi’i dderbyn. Codwyd cwestiynau o ran statws ysgol arbennig a chyfrifoldeb Estyn i amlygu pan nad yw ysgolion yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer Addoli Ar Y Cyd, er enghraifft yn achos Ysgol Uwchradd Castell Alun.

            Ymhellach at hynny, ymddengys bod y fframwaith arolygu newydd yn dychwelyd at ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol yn ei gyfanrwydd.

VB      Rhoddwyd arweiniad ychwanegol i arolygwyr a bydd ffocws cryf ar hunan-werthuso ar gyfer ysgolion yn y dyfodol.

PL       Derbyniwyd ymateb gan Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru ar 1 Chwefror 2018 ond codwyd pryderon ychwanegol am y diffyg gwerslyfrau Cymraeg.

            O ran cymwysterau newydd, maent yn parhau i fod yn unol â chymwysterau yn Lloegr o ran cydraddoldeb.

            Rhannwyd yr ymateb hwn â CCYSAGC ond mae Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Wrecsam wedi mynd â’r mater ymhellach, gan ganolbwyntio ar y drafodaeth o gymhwyster interim mewn Addysg Grefyddol Cyfnod Allweddol 4.

            Mae adnoddau TGAU ar gael yn Saesneg a Chymraeg.

LO       Fodd bynnag, mae adnoddau Lefel A ar gael yn Saesneg yn unig.

PL       Bydd y fanyleb bresennol ar waith tan 2022 pan fydd newidiadau yng ngoleuni’r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru.

 

PL       Eitem Agenda 5, Penderfyniad (a) – Eglurhad bod y pryderon a fynegwyd yn ymwneud ag Estyn ac nid Ysgol Uwchradd Castell Alun. Mae Mark Campion a Michelle Gosney o Estyn yn awyddus i sicrhau bod hyfforddiant ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol a hyfforddiant addoli ar y cyd penodol ar gyfer arolygwyr.

 

PL       Eitem Agenda 6, Penderfyniadau (a) a (b) – gwiriwyd y tablau data TGAU i gadarnhau eu bod yn gywir. Yn ychwanegol, y ffigwr ar gyfer Treffynnon a oedd yn dangos nad oedd y canlyniadau’n gywir gan nad oedd disgyblion wedi’u cofrestru ar gyfer arholiadau yn 2017. Dechreuodd yr ysgol addysgu cyrsiau yn 2017 felly, bydd disgyblion yn cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau yn 2018, dylai bod hyn wedi’i adlewyrchu yn y gyfres nesaf o ganlyniadau.

VB      Dylid nodi Holywell fel Ysgol Treffynnon mewn adroddiadau yn y dyfodol gan mai dyma yw enw newydd Ysgol Uwchradd Treffynnon, a gyflwynwyd yn lle’r gwreiddiol yn 2016.

 

PL       Eitem Agenda 7, Penderfyniad (a) – Mae deunyddiau bron yn barod a bydd rhaid i Gyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Sir y Fflint gytuno ar y maes llafur nesaf yn ystod y cyfarfod nesaf, mwy na thebyg yn cadw’r rhaglen bresennol tan 2022.

 

PL       Eitem Agenda 8, Penderfyniadau (a) a (b) - Dosbarthwyd cofnodion o gyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2017 i’r pwyllgor ac adroddwyd bod cyflwyniadau wedi’u cynnal gan Lywodraeth Cymru ar y cwricwlwm newydd a hyfforddiant athrawon yn ystod y cyfarfod ym mis Mawrth.

 

Penderfyniadau

(a)   PL i adrodd yn ôl ar drafodaethau mewn perthynas â’r cymhwyster  ...  view the full minutes text for item 2.

3.

Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu pdf icon PDF 66 KB

To receive the analysis of recent Estyn Inspection Reports

Minutes:

PL       Roedd yr wybodaeth a oedd wedi’i chynnwys ym mhecyn yr agenda yn anghywir.

 

Dosbarthodd PL y dadansoddiad cywir ymhlith y pwyllgor.

 

PL       Mae arolygiadau ar gyfer y tair ysgol wedi’u cynnal o dan Fframwaith Arolygu Newydd Estyn. Os nad oedd sylw o dan bennawd penodol yna nid oedd wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad.

 

Amlinellodd PL y dadansoddiad allweddol o’r adroddiadau.

 

PL       Wrth ymateb i gwestiwn gan HPD, cadarnhaodd bod Ysgol Terrig wedi’i harolygu ac nid Meithrinfa Terrig fel nodwyd yn y dadansoddiad.

           

Penderfyniadau

(a)   PL i newid “Cylch Meithrin Terrig, Treuddyn” i “Ysgol Terrig, Treuddyn” yn y Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu.

(b)   PL i ysgrifennu at y tair ysgol ar ran y pwyllgor i’w llongyfarch ar eu hadroddiadau.

 

4.

Cwricwlwm Cymru

To receive a presentation about the developments regarding the Curriculum for Wales.

Minutes:

PL       Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus unwaith y cyhoeddir y cwricwlwm newydd y bydd yn cael ei fabwysiadau gan yr holl Gynghorau Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol.

            Mae’r wybodaeth wedi’i hanfon allan gan Lywodraeth Cymru a sylwadau wedi’u gwahodd. 

 

Dosbarthodd PL yr wybodaeth ymhlith y pwyllgor ac amlinellu cynigion y Meysydd o Brofiad Dysgu Y Dyniaethau.

 

Rhannwyd y pwyllgor yn bum gr?p bychan, pob un yn edrych ar un o’r camau cynnydd i ddadansoddi eu cynnwys ac iaith. 

 

PL       Ymddengys y byddai gr?p o ysgolion yn dod ynghyd i ddatblygu cwricwlwm a gweithgareddau yn unol â’r camau cynnydd.

 

Mae sylwadau o’r grwpiau yn cynnwys:

  • Cadarnhaol yw gweld y cwricwlwm newydd yn dechrau siapio;
  • Ymddengys bod rhai sylwadau wedi’u dylanwadu gan arbenigeddau'r unigolion sydd wedi’u hysgrifennu;
  • Mae’r camau uwch yn edrych yn dda ac yn heriol;
  • Mae graddfa’r anhawster yn amrywio yn y camau ar draws bynciau gwahanol;
  • Mae iaith yn anghyson yn y Cyfnod Sylfaen;
  • Efallai y bydd yn bosibl cyfuno meysydd os ydynt yn cael eu hystyried yn eu cyfanrwydd;
  • Gall y manylder achosi pryder ymhlith staff.

 

Gwahoddodd PL y pwyllgor i gyflwyno unrhyw sylw penodol neu gyffredinol drwy e-bost erbyn 27 Mehefin 2018.

 

Penderfyniadau

(a)   PL i gydlynu ymateb ar ran y pwyllgor.

 

5.

WASACRE (CCYSAGC)

1.    To receive the minutes of the last meeting of the Association in Swansea 9th March 2018

 

2.    To agree attendance to the next WASACRE, Llangefni, Anglesey 6th July 2018.

 

 

Minutes:

Dosbarthodd PL gofnodion y cyfarfod diwethaf, dyddiedig 9 Mawrth 2018.

 

PL       Cadarnhaodd Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, y gall Dyneiddwyr dderbyn cynrychiolaeth lawn ar y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol cyhyd â'u bod yn bodloni’r meini prawf gofynnol.

HPD   Mae cyfle i gael cynrychiolaeth grefyddol ehangach ar Gyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Sir y Fflint.

 

PL       Cyflwynodd Rachel Bendall gyflwyniad ar hyfforddiant athrawon.

IR        O ran ysgolion cynradd, ymddengys bod y drefn o hyfforddi athrawon am flwyddyn wedi iddynt ennill gradd mewn maes penodol yn ddiffygiol gan eu bod yn addysgu ystod eang o bynciau.  Gall athrawon cynradd sy’n hyfforddi am bedair blynedd (yn hytrach nag un), ac yn astudio amrywiaeth o bynciau, ddarparu addysg fwy cyflawn a chytbwys i’r plant.

 

PL       Mae Michelle Gosney yn gyfrifol am Addysg Grefyddol a’r Dyniaethau Estyn. Bydd Michelle, sydd wedi’i phenodi’n swyddog arweiniol Estyn ar gyfer ysgolion ffydd, yn rhoi cyflwyniad ar adolygiad thematig Addysg Grefyddol yn ystod y cyfarfod nesaf.

            Gall Sir y Fflint gael hyd at dri chynrychiolydd yn bresennol yn ystod cyfarfodydd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru, gyda’r cyfarfod nesaf i’w gynnal ar 6 Gorffennaf 2018 yn Llangefni. Mae manylion y cyfarfod ar gael ar wefan CCYSAGC.

 

6.

Cyfarfodydd y Dyfodol

Date of next meeting: 10th October 2018

 

Future meetings:      20th February 2019

                                    12th June 2019

 

 

Regarding the Autumn visit - we will need to conduct an Agreed Syllabus Conference to agree the current Agreed Syllabus until the new curriculum is agreed in 2022.

 

 

 

Minutes:

  • Dydd Mercher 10 Hydref 2018;
  • Dydd Mercher 20 Chwefror 2019;
  • Dydd Mercher 12 Mehefin 2019.

 

Amseroedd a lleoliadau i'w penderfynu.

 

Diolchodd DMc i bawb am fod yno a dod â’r cyfarfod i ben.