Agenda item

Cofnodion y Cyfarfod Diwethaf (21 Chwefror 2018)

To approve and sign as a correct record the minutes of the previous meeting

Minutes:

JA       Ymddiheurodd gan nad oedd yn bresennol yn y cyfarfod diwethaf gan ei fod yn cyd-daro â phenodiad i’r pwyllgor.

 

PL       Eitem Agenda 3, Penderfyniad (a) – Cysylltwyd ag Estyn o ran y sylw am Ysbrydol, Moesol, Cymdeithasol a Diwylliannol ar gyfer Ysgol Pen Coch ond nid oedd unrhyw ymateb uniongyrchol wedi’i dderbyn. Codwyd cwestiynau o ran statws ysgol arbennig a chyfrifoldeb Estyn i amlygu pan nad yw ysgolion yn bodloni’r gofynion statudol ar gyfer Addoli Ar Y Cyd, er enghraifft yn achos Ysgol Uwchradd Castell Alun.

            Ymhellach at hynny, ymddengys bod y fframwaith arolygu newydd yn dychwelyd at ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol yn ei gyfanrwydd.

VB      Rhoddwyd arweiniad ychwanegol i arolygwyr a bydd ffocws cryf ar hunan-werthuso ar gyfer ysgolion yn y dyfodol.

PL       Derbyniwyd ymateb gan Philip Blaker, Prif Weithredwr Cymwysterau Cymru ar 1 Chwefror 2018 ond codwyd pryderon ychwanegol am y diffyg gwerslyfrau Cymraeg.

            O ran cymwysterau newydd, maent yn parhau i fod yn unol â chymwysterau yn Lloegr o ran cydraddoldeb.

            Rhannwyd yr ymateb hwn â CCYSAGC ond mae Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Wrecsam wedi mynd â’r mater ymhellach, gan ganolbwyntio ar y drafodaeth o gymhwyster interim mewn Addysg Grefyddol Cyfnod Allweddol 4.

            Mae adnoddau TGAU ar gael yn Saesneg a Chymraeg.

LO       Fodd bynnag, mae adnoddau Lefel A ar gael yn Saesneg yn unig.

PL       Bydd y fanyleb bresennol ar waith tan 2022 pan fydd newidiadau yng ngoleuni’r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru.

 

PL       Eitem Agenda 5, Penderfyniad (a) – Eglurhad bod y pryderon a fynegwyd yn ymwneud ag Estyn ac nid Ysgol Uwchradd Castell Alun. Mae Mark Campion a Michelle Gosney o Estyn yn awyddus i sicrhau bod hyfforddiant ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol a hyfforddiant addoli ar y cyd penodol ar gyfer arolygwyr.

 

PL       Eitem Agenda 6, Penderfyniadau (a) a (b) – gwiriwyd y tablau data TGAU i gadarnhau eu bod yn gywir. Yn ychwanegol, y ffigwr ar gyfer Treffynnon a oedd yn dangos nad oedd y canlyniadau’n gywir gan nad oedd disgyblion wedi’u cofrestru ar gyfer arholiadau yn 2017. Dechreuodd yr ysgol addysgu cyrsiau yn 2017 felly, bydd disgyblion yn cael eu cofrestru ar gyfer arholiadau yn 2018, dylai bod hyn wedi’i adlewyrchu yn y gyfres nesaf o ganlyniadau.

VB      Dylid nodi Holywell fel Ysgol Treffynnon mewn adroddiadau yn y dyfodol gan mai dyma yw enw newydd Ysgol Uwchradd Treffynnon, a gyflwynwyd yn lle’r gwreiddiol yn 2016.

 

PL       Eitem Agenda 7, Penderfyniad (a) – Mae deunyddiau bron yn barod a bydd rhaid i Gyngor Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Sir y Fflint gytuno ar y maes llafur nesaf yn ystod y cyfarfod nesaf, mwy na thebyg yn cadw’r rhaglen bresennol tan 2022.

 

PL       Eitem Agenda 8, Penderfyniadau (a) a (b) - Dosbarthwyd cofnodion o gyfarfod CCYSAGC a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2017 i’r pwyllgor ac adroddwyd bod cyflwyniadau wedi’u cynnal gan Lywodraeth Cymru ar y cwricwlwm newydd a hyfforddiant athrawon yn ystod y cyfarfod ym mis Mawrth.

 

Penderfyniadau

(a)   PL i adrodd yn ôl ar drafodaethau mewn perthynas â’r cymhwyster interim.

(b)   Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywir.

 

Supporting documents: